Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gorffennaf 2014
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Addysg a
Chynhwysiant Ariannol (Cymru)
1. Ar 16 Gorffennaf 2014, cafodd Bil Aelod, ‘Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 24 Mehefin 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 1 Gorffennaf 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 14 Tachwedd 2014.
4.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 29
Ionawr 2015, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.